Digwyddiadau i ddod yn 2012
Ebrill
Taith Gerdded Gylchol Fforest Fawr: Bydd tîm Awyr Agored Caerdydd Outdoor Cardiff yn cwblhau ei bedwaredd daith gerdded fis Ebrill. Bydd gennym agoriad swyddogol ar gyfer y daith sy’n cychwyn o faes parcio Castell Coch yn Nhongwynlais. Mae dechrau a gorffen y daith gerdded yn serth (graddiant o 30% ar y mwyaf) ac mae gweddill y daith gerdded yn fwy gwastad (graddiant o 10% ar y mwyaf). Manylion ynghylch dyddiad am amser y daith i’w cadarnhau.
Ebrill 19 Amser: Cyrhaeddwch erbyn 10:30am ar gyfer yr agoriad
swyddogol ac yna bydd taith gerdded i'r teulu.
Man Cyfarfod a Pharcio: Maes parcio Fforest Fawr oddi ar
Heol-y-Fforest
(GR 314167:183868)
Cyfleusterau: Tŷ bach symudol ar gael;
Parcio i Bobl Anabl
Am y daith gerdded hon: Pellter y daith yw 2.5km/1.6m a
does dim rhwystrau. Mae’r arwynebedd yn gymysgedd o garreg wedi’i gywasgu a
llwybrau pridd caled ac felly dylid gwisgo esgidiau addas.
Mai
Llwybr Arfordir Mawr Cymru - Dydd Sadwrn 5 Bydd y llwybr arfordir yn agor yn swyddogol ar y 5ed a bydd nifer o ddigwyddiadau yn digwydd o amgylch yr arfordir. I gael gwybod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol ewch i wefan Cymdeithas y Cerddwyr. Bydd Cerdded Er Lles Iechyd yn cymryd rhan mewn taith gerdded ar y cyd y diwrnod hwnnw yn cychwyn o Fae Caerdydd. Rhoddir manylion yma wrth iddynt gael eu cadarnhau.
Cerdded i Gadw'n Iach Caerdydd
Pythefnos Masnach Deg - 2pm dydd Mercher 29 Dechrau a Gorffen y daith gerdded yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Chapter yn Nhreganna. Ar y daith gerdded byddwch yn mynd trwy Barc Victoria ac o amgylch y siopau lleol tra’n dysgu am Fasnach Deg a’r hyn sydd ar gael ar stepen eich drws yn Nhreganna. Mae’r daith yn un gwastad ac yn para awr. Gellir prynu lluniaeth yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Chapter.
Penwythnos Masnach Deg - 10:30am dydd Sadwrn 10 Bydd y daith yn cychwyn yn Ysgol Gynradd Albany Road ac yn dod i ben ym Marchnad Fwyd y Rhath (Roath Real Food Market) wrth Ganolfan Gelfyddydau’r Gate. Mae’r daith yn un gwastad ac yn para awr. Gellir prynu lluniaeth yn y farchnad ac yn y ganolfan gelfyddydau.

Taith Cerdded y Gaeaf 2009/2010
Ddydd Mawrth, 16 Chwefror, cwrddodd 54 ohonom ni ar Ganolfan Addysg Colwill Rd, gerllaw afon Taf a cherddon i'r gogledd i mewn ac o gwmpas Parc Hailey ac wedyn i'r de trwy fynwent Eglwys Gadeiriol Llandaf, i mewn parc Bute i'r bont y gored ac wedyn yn ôl i'r Ganolfan Colwill Rd. Bu'r daith 4.5 milltir a chymryd bron dwy awr.
Roedden ni'n fforddus gyda'r tymheredd ar wahân i un gawod a chafodd pawb hwyl, mae'n ymddangos! Diolch i Gareth Stamp a Kevin Date, Ceidwaid y Parc a esboniodd rhai nodweddion diweddar y parc a'r gored. Diolch eto i Penny Bowers oddi wrth Gyfeillion Parc Hailey, a esboniodd gwaith diweddaraf Parc Hailey.
Taith Cerdded y Hydref 2009
Ddydd Iau 20 Hydref, wynebodd 41 o gerddwyr tywydd glwb i gerdded ar hyd Llwybr Taf o Ffynnon Taf i Nantgarw ac yn ôl trwy Waelod-y-garth. Yn anfoddus daeth y tywydd yn drwm iawn tua diwedd y daith. Doedd ddim gobaith o dynnu lluniau. Diolch i bawb sydd wedi dod.
Taith Cerdded y Haf 2009
Ddydd Mawrth 18 Awst, cerddodd Cerddwyr Caerdydd o gwmpas Llynnoedd Cosmeston ym Mhenarth. Roedd dros hanner cant o gerddwyr. Roedd y tywydd yn braf a'r daith yn bleserus, yn enwedig pan archwilion ni lleoedd ar yr amfesur. Wedyn, daeth rhai i'r caffi am ginio a rhai i'r dafarn leol.
Taith Cerdded y Gwanwyn 2009
Ar 15 Mai fe fforiodd Cerddwyr Caerdydd hyd Afon Elái a gafodd ei agor fel rhan o Llwybr Trelái. Dechreuon o Sain Fagan a cherdded ar hyd yr afon tuag at Drelái . Roedd tipyn bach yn wlyb ond cadwodd y glaw bant a mwynheuon ni i gyd y cyfle cerdded ar hyd glan yr afon. O'r diwedd cafodd cryn dipyn ohonon ni pryd o fwyd yn yr Plymouth Arms.
Diolch eto i'r rhai a ddaeth.
Taith Cerdded y Gaeaf 2008/2009
Er gwaetha glaw drwm daeth 46 ohonom ni ar ein Taith Cerdded y Gaeaf Caerdydd o gwmpas gwarchoda natur Fferm y Fforest ar 3 Mawrth. Diolch i bawb a heriodd y tywydd.
Diolch hefyd i Paul Davies oddi wrth Geidwaid y Parciau Caerdydd ac i Warchodwyr Cefn Gwlad a letyodd ni am de a theisen wedyn.
Gweddwch am dywydd gwell yn ystod ein taith yn y gwanwyn!
Fferm y Fforest a Chamlas Morgannwg
Taith Cerdded y Hydref 2008
Ar iwrnod a heulog fis Hydref, cerddodd dros gant o gerddwyr trwy Barc Bute Caerdydd wrth wrando ar yr arbenigwr coed a ddisgrifiai lawer o goed "pen eu campau" a sef ynddo yn falch. Yna, gorffennon ni a diod boeth a phic ar y maen yng Nghanolfan Pedal Power. Tro llwyddiannus arall!
Taith Cerdded y Haf 2008
Roedd ein taith gerdded Nadolig y llynedd o amgylch Bae Caerdydd yn llwyddiant ysgubol, a chafodd bawb amser da.
Taith Cerdded y Gwanwyn 2008
Roedd ein taith gerdded Gwanwyn y llynedd o amgylch Wenallt yn llwyddiant ysgubol, a chafodd bawb amser da.
Maer ffotograffau iw gweld isod:
Taith Cerdded y Gaeaf 2007
Roedd ein taith gerdded Gaeaf y llynedd o amgylch St. Fagans yn llwyddiant ysgubol, a chafodd bawb amser da.
Maer ffotograffau iw gweld isod:
Taith Cerdded y Gwanwyn 2006
Roedd ein taith gerdded Gwanwyn y llynedd o amgylch Llynnoedd Cosmeston yn llwyddiant ysgubol, a chafodd bawb amser da.
Maer ffotograffau iw gweld isod:
Mae Cerdded i Gadwn Iach Caerdydd hefyd yn cynhyrchu Cylchlythyr bob chwe mis ar gyfer y cerddwyr rheolaidd